Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn ymroddedig i gynnig cymorth parhaus i’n teuluoedd sy’n mabwysiadu. Rydym yn rhedeg Grŵp Cymorth Rhanbarthol a dyma rhai o’r cyrsiau hyfforddi yr ydym yn eu cynnal yn rheolaidd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni –
Paratoi i Fabwysiadu –
Mae’n orfodol i gwblhau’r cwrs hyfforddiant 4 diwrnod yma cyn cychwyn y broses i fabwysiadu. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth ac i feddwl am rai o’r materion yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws os byddwch yn mabwysiadu plentyn.
Hyfforddiant Ymlyniaeth a Thrawma –
Dyma gwrs hyfforddiant 1 diwrnod ar gyfer darpar mabwysiadwyr & mabwysiadwyr cymeradwy. Bydd y cwrs yn darparu chi gyda –
• Dealltwriaeth sylfaenol o Theori Ymlyniaeth,
• Egluro natur chwarae a’i bwysigrwydd,
• Deall pwysigrwydd effaith trawma ar yr ymennydd sy’n datblygu
• Archwilio damcaniaethau a strategaethau magu plant
Anhwylderau Sbectrwm ffoetws Alcohol –
Dyma hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth o Anhwylderau Sbectrwm Ffoetws Alcohol. Ac i ddarparu technegau positif ar gyfer rhianta plentyn ar y sbectrwm.
Addysg ac Ymlyniaeth –
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer darpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr cymeradwy i gael trosolwg o ganllaw ymarferol i weithio gydag ysgolion a deall materion ymlyniaeth o fewn cyd-destun ysgol.
Hyfforddiant ar gyfer Pherthnasau & Ffrindiau-
Mae’r cwrs yn gyfle i neiniau a theidiau, aelodau o’r teulu neu ffrindiau i ddeall mwy am fabwysiadu. Bydd yn rhoi cyfle i berthnasau & ffrindiau i rannu eu teimladau, gobeithion, ofnau ac i edrych ar ffyrdd o gefnogi’r rhai sydd yn mynd drwy’r broses i fabwysiadu