Mabwysiadu gan Bartner y Rhiant
Nid tasg hawdd yn aml yw addasu i fyw fel llys-deulu. Mae’n bwysig bod llys-rieni’n meddwl yn ofalus a fydd mabwysiadu o fudd i’w teulu nhw. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi ystyriaeth i anghenion a theimladau eich plentyn/plant.
Mae mabwysiadu’n cynnig perthynas gyfreithiol barhaol i blentyn gyda’r rhiant mabwysiadu, a bydd hynny’n parhau ar hyd eu hoes.Mae’n golygu bod y rhiant genedigol preswyl a’i phartner yn rhannu cyfrifoldeb fel rhieni i’r plentyn.Nid oes hawl awtomatig i fabwysiadu ac nid yw hynny’n briodol i bob plentyn mewn llys-deulu.
Os ydych yn dymuno mabwysiadu plant eich partner fel y byddwch chi’n rhiant cyfreithiol iddynt ac yn rhannu cyfrifoldeb rhiant drostynt, gelwir hyn yn mabwysiadu gan bartner y rhiant.
Mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ymchwilio i’r amgylchiadau a pharatoi a chyflwyno adroddiad o’u darganfyddiadau i’r Llys.
Goblygiadau i Fabwysiadu gan Bartner y Rhiant
- Os bydd llysblant yn cael eu mabwysiadu, nid yw’r gyfraith yn cydnabod wedyn fod gan y rhiant genedigol arall unrhyw gyfrifoldeb rhiant am y plentyn. Hefyd, ni fydd gan hanner-brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod a chefndryd a chyfnitherod ar ochr y rhiant hwnnw berthynas gyfreithiol â’r plentyn. Bydd eich plentyn wedi ei wahanu’n gyfreithiol oddi wrth un o’i rieni ef neu hi, ond hefyd oddi wrth ran fawr o deulu ehangach y rhiant hwnnw hefyd. Gallai hyn beri dryswch neu ofid i’r plentyn ac yn amlwg, mae angen ystyried y peth yn ofalus. Yn y blynyddoedd diweddar, mae pobl wedi dod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd sicrhau fod plant yn gwybod am eu gwreiddiau. Yn achos mabwysiadu gan bartner y rhiant, mae’n bwysig sicrhau hefyd, er y bydd cyswllt cyfreithiol wedi ei dorri, nad yw’r plentyn yn colli cysylltiad yn llwyr gyda’r rhiant arall a’i berthnasau ef neu hi.
- Gall mabwysiadu greu teimlad yn y plentyn ei fod yn gorfod dewis rhwng gwahanol oedolion a phob un ohonynt yn bwysig iddo.Bydd hyn yn boenus ar y pryd a gall arwain at broblemau wrth iddynt dyfu’n hŷn.Gall y plentyn sydd wedi ei fabwysiadu gweld bai ar y rhiant neu lys-riant oherwydd ei fod yn colli’r rhiant genedigol arall.
- Efallai y bydd mabwysiadu’n creu anfanteision ymarferol hefyd.Bydd plentyn a fabwysiedir yn colli unrhyw hawl i gael ei gynnal neu i etifeddu gan y rhiant genedigol arall neu deulu’r rhiant hwnnw (megis neiniau a theidiau).
Manteision Mabwysiadu gan Bartner y Rhiant
- Caiff eich teulu ei gydnabod gan y gyfraith
- Bydd gan bob aelod yr un cyfenw
- Mae’r plant yn rhannu hawliau etifeddu gydag unrhyw blant eraill yn y teulu.
Dewisiadau eraill yn lle Mabwysiadu gan Bartner y Rhiant
Mae dewisiadau eraill yn hytrach na mabwysiadu gallai sicrhau lle’r plentyn yn y teulu’n fwy priodol.
- Cytundeb Cyfrifoldeb Rhiant
- Gorchymyn Cyfrifoldeb Rhiant
- Gorchymyn Preswylio
- Gorchymyn Gwarcheidwaid Arbennig
- Newid enw drwy weithred newid enw
Pwy all wneud cais am Fabwysiadu gan Bartner y Rhiant?
Gallwch chi wneud cais am Fabwysiadu gan Bartner y Rhiant os yw’r meini prawf canlynol i gyd yn cael eu bodloni:
- Mae’n rhaid i chi fod yn hŷn na 21 oed;
- Nid oes raid i chi fod yn briod ond mae’n rhaid i chi fod yn byw gyda’r rhiant genedigol preswyl, mewn perthynas deuluol gadarn (mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn argymell lleiafswm o 2 flynedd)
- Mae’n rhaid i chi fod yn byw gyda’r plentyn yn barhaus ers o leiaf 6 mis
- Mae’n rhaid i chi fod wedi byw ar Ynysoedd Prydain neu fod wedi preswylio’n arferol am o leiaf 12 mis
- Mae’n rhaid i’r plentyn fod o dan 18 oed ar adeg mae’r cais yn mynd i’r Llys.
Gwneud cais i Fabwysiadu gan Bartner y Rhiant?
- Cysylltwch â’r gwasanaeth ac fe gewch becyn gwybodaeth yn ogystal â ffurflen ymateb.Gallwch benderfynu wedyn a ydych am gofrestru eich diddordeb i fynd ymhellach.
- Os ydych yn teimlo mai mabwysiadu yw’r dewis gorau i’ch teulu chi, llenwch y ffurflen ymateb ynghyd a llythyr ffurfiol yn rhoi gwybod am eich bwriad i fabwysiadu a dychwelwch nhw i’r swyddfa, ac yna fe drefnwn ymweliad cychwynnol.Cynhelir yr ymweliad yn eich cartref er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y broses fabwysiadu.
- Bydd angen i chi roi o leiaf tri mis o rybudd ysgrifenedig i Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru am eich bwriad i wneud cais i’r Llys.
- Bydd angen i chi gyflwyno eich cais i’r llys, a bydd y gost o ddeutu £200. Bydd y Llys yn gofyn am adroddiad ysgrifenedig gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.
- Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn ymchwilio i’ch addasrwydd i fod yn rhiant mabwysiadu i’r plentyn a phriodoldeb y mabwysiadu.
- Bydd Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn cyflwyno ein hadroddiad i’r Llys ynglŷn â’ch addasrwydd a phriodoldeb y mabwysiadu.
- Bydd y Llys yn ystyried eich cais ac adroddiad yr awdurdod lleol ac yn gwneud penderfyniad.
Os hoffech ddarganfod mwy am fabwysiadu gan Bartner y Rhiant, gallwch gysylltu â’n tîm a fydd yn barod i’ch helpu.